Croeso’
Os hoffech drafod eich triniaeth yng Nghymraeg rhowch wbod i ni. Rydym yn medru cynnig triniaeth i’r teulu i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cleifion newydd
Os ydych yn newydd i ardal Ddinas Powys, yn ystyried newid deintydd, neu efallai eich bod am gael mynediad at driniaeth nad yw eich deintydd rheolaidd yn darparu, dewch i weld y tîm, cyfeillgar, yn Castle Court Dental Care. Mae hi’n flaenoraieth i ni ein bod yn sicrhau bod pob claf yn cael profiad hamddenol, tawel a chadarnhaol yn ein practis, o’r eiliad i chi gamu drwy’r drws i’r funud y byddwch yn gadael a thu hwnt. Rydym wedi amlinellu yr hyn y gall cleifion newydd ei ddisgwyl oddi wrthom.
Sut mae’n gweithio yn Castle Court Dental Care Argraff gyntaf
Estynnwn groeso cynnes i bob claf, hyd yn oed cyn iddynt gamu drwy’r drws yn Castle Court Dental Care. Pan fyddwch yn cysylltu i wneud eich apwyntiad, bydd ein tîm derbynfa cyfeillgar yn helpu i drefnu amser addas ar gyfer eich apwyntiad a delio ag unrhyw ymholiadau. Wrth gyrraedd, byddwch yn cael eich cyfarch gan staff dymunol, tosturiol mewn amgylchedd sy’n gwahodd ac yn ymlacio.
Apwyntiad cyntaf.
Ar ôl cyrraedd, bydd angen i chi lenwi holiadur meddygol neu addasu unrhyw fanylion personol ar eich ffeil. Byddwch yn cael archwiliad llawn gan y deintydd, gall gynnwys ffotograffau digidol a phelydrau-x, ynghyd â llawer o gwestiynau am eich ffordd o fyw, iechyd cyffredinol ac arferion hylendid y geg. Os bydd problem deintyddol yn cael ei nodi, bydd hyn yn cael ei drafod yn llawn.
Cynllunio triniaeth.
Os oes angen triniaeth bellach, bydd cynllun yn cael ei lunio sy’n manylu yn glir bopeth y gallwch ei ddisgwyl oddi wrth ein gwasanaeth, a’r costau sydd ynghlwm. Byddwch yn cael cymaint o amser ag sydd angen i ofyn cwestiynau ac ystyried eich opsiynau – gan gynnwys 0% finance. Cewch hefyd cael gwybod am yr ôl-ofal y gallwch ei ddisgwyl, ac os bydd angen i chi gymryd unrhyw amser i ffwrdd i wella gan ddilyn y driniaeth . Unwaith y byddwch wedi cadarnhau eich bod yn fodlon ar eich cynllun triniaeth, gall triniaeth fynd yn ei flaen – mewn rhai achosion yn ystod yr un apwyntiad, yn enwedig os oes angen i’r deintydd cael gwared ar y boen. Mewn achosion eraill, efallai y bydd angen i chi ddychwelyd ar gyfer apwyntiad cyfleus yn y dyfodol agos.
Ôl-driniaeth
Ni fyddwn yn eich anfon adref ar ôl triniaeth heb ddealltwriaeth glir o’r hyn y mae angen i chi ei wneud i gadw eich dannedd a’ch deintgig yn lân ac yn ddi-haint. Byddwn yn trefnu eich gweld ar gyfer gwiriadau dilynol ac apwyntiadau hylendid, a byddwn yn ceisio eich gweld cyn gynted ag y bo modd os oes gennych unrhyw bryderon yn dilyn eich triniaeth.
Dewch o hyd i ni/ Ymweld â ni
Mae Dinas Powys wedi’i leoli’n gyfleus ar briffordd yr A4055 o Gaerdydd i Barri. Mae parcio ar gael ar draws y ffordd o’r ddeintyddfa. Mae dwy orsaf drenau (Eastbrook a Dinas Powys) o fewn 5 munud hefyd.
CYSYLLTWCH Â NI
Castle Court Dental Care
1 Castle Court
Dinas Powys
Vale of Glamorgan
CF64 4NS029 20 512646
info@castlecourtdental.co.uk
AWR AGOR
Dydd Llun - 8.45yb to 5.30yh
Dydd Mawrth - 8.45yb to 7.00yh
Dydd Mercher - 8.30yb to 4.00yh
Dydd Iau - 8.45yb to 5.00yh
Dydd Gwener - 8.45yb to 12.30yh
Dydd Sadwrn - 8.30yb to 12.30yh
Dydd Sul - AR GAU